Facebook Pixel

Cyflogau prentisiaethau

British pound coins and notes on a table

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed ac maen nhw’n darparu llwybrau mynediad i lawer o bobl i’r swydd maen nhw wedi dymuno ei chael erioed, ond efallai na wnaethon nhw astudio ar ei chyfer yn y lle cyntaf. Mae gwahanol lefelau o brentisiaethau ar gael, a bydd dewis yr un iawn i chi yn dibynnu ar eich profiad, lefel eich addysg a’r swydd yn y diwydiant adeiladu sydd gennych chi mewn golwg.

Os byddwch chi’n dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu, rydych chi’n siŵr o gael profiad dysgu gwych ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn dod o hyd i’ch swydd ddelfrydol.

Ond pa fath o gyflog allwch chi ei ddisgwyl yn ystod eich prentisiaeth? Bydd y canllaw hwn ar gyflogau prentisiaethau yn dweud wrthoch chi faint y gallech chi ei ennill ac yn ateb unrhyw gwestiynau am gyflog a threth fel prentis.

Faint fydd eich cyflog fel prentis?

Mae prentisiaethau’n cyfuno gwaith ymarferol ag astudio, felly mae eich cyflog yn ystod y brentisiaeth yn debygol o fod yn is na swyddi arferol nad ydynt yn cynnwys elfen o astudio neu hyfforddi. Fodd bynnag, byddwch chi’n ennill profiad gwerthfawr, a bydd gennych chi hawl i’r canlynol:

  • Cefnogaeth ar ffurf mentora neu hyfforddi
  • Cynlluniau budd-daliadau fel gofal plant
  • Tâl salwch
  • Gwyliau gyda thâl/gwyliau blynyddol.

Beth yw’r isafswm cyflog ar gyfer prentisiaid?

Yr isafswm cyflog presennol ar gyfer prentisiaid yw £6.40 yr awr, a bennwyd gan y Llywodraeth. Mae hyn yn berthnasol os yw’r prentis o dan 18 oed, neu os yw ym mlwyddyn gyntaf y brentisiaeth, beth bynnag fo’i oedran.

Y siart isafswm cyflog o 1 Ebrill 2024

 

21 oed a hŷn

18 i 20

O dan 18

Prentis

Ebrill 2024 (cyfradd gyfredol)

£11.44

£8.60

£6.40

£6.40

Felly, os ydych chi’n 21 oed ac ym mlwyddyn gyntaf eich prentisiaeth, byddwch chi’n cael yr isafswm cyflog ar gyfer prentisiaid, sef £6.40 yr awr (cyfradd 2024-25).

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf, mae gennych hawl i gyflog o £11.44 yr awr.

Rhagor o wybodaeth am yr isafswm cyflog a'r cyflog byw.

A yw prentisiaid yn talu treth neu yswiriant gwladol?

Rhaid i brentisiaid dalu treth incwm fel pawb arall. Fel arfer, byddwch chi'n talu treth drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), sy'n golygu bod y dreth yn cael ei thynnu'n syth o'ch pecyn cyflog. Fel arfer, ni fydd angen i chi boeni am lenwi ffurflen Hunanasesiad treth. Fodd bynnag, byddwch chi ond yn talu treth os bydd eich cyflog yn uwch na’r trothwy ar gyfer talu treth, sef £12,570 y flwyddyn ar hyn o bryd (o 2024-2025).

Rhaid i brentisiaid hefyd dalu cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 1 os ydynt yn ennill mwy na’r gyfradd trothwy sylfaenol. I gael y manylion diweddaraf am y cyfraddau hyn, ewch i dudalen gov.uk.

Allwch chi gael codiad cyflog fel prentis?

Bydd eich cyfradd isafswm cyflog fel prentis yn codi po hynaf y byddwch chi, ond dyma’r ymrwymiadau statudol y mae’n rhaid i gyflogwr eu gwneud. Efallai y bydd cyflogwyr yn ystyried talu mwy i’w prentisiaid wrth i chi ennill mwy o brofiad a sgiliau yn ystod eich prentisiaeth. Felly, mae’n dderbyniol i brentisiaid ofyn am godiad cyflog, os ydych chi’n meddwl bod y cynnydd rydych chi’n ei wneud yn cyfiawnhau hynny.

Fyddwch chi’n cael eich talu am eich diwrnodau yn y coleg?

Mae’r diwrnodau astudio fel rhan o’r brentisiaeth yn dod o dan yr amodau ar gyfer prentisiaethau a nodwyd gan y Llywodraeth. Mae'r rhain yn nodi bod yn rhaid i chi gael eich talu am yr amser rydych chi’n ei dreulio yn astudio, boed hynny yn y gwaith neu yn y coleg.

Ydy prentisiaid yn cael tâl gwyliau/salwch?

Mae gan brentisiaid hawl i’r un buddion yn y gweithle ag unrhyw weithiwr amser llawn. Cyn belled â’ch bod yn gweithio dros 33 awr yr wythnos, byddwch chi’n cael o leiaf 20 diwrnod o wyliau â thâl bob blwyddyn. Mae prentisiaid hefyd yn gymwys i gael tâl salwch statudol. Rhaid i brentisiaid fodloni’r amodau canlynol i gael tâl salwch statudol:

  • Bod â chontract cyflogaeth a gweithio dan y contract hwnnw
  • Ennill cyflog cyfartalog o ddim llai na £120 yr wythnos
  • Bod yn sâl am bedwar diwrnod neu fwy yn olynol

Rhagor o wybodaeth am y cyfraddau tâl salwch statudol diweddaraf y mae gan brentisiaid hawl iddynt.

Ydy pob prentis yn cael yr un cyflog?

Nac ydyn. Rhaid i gyflogwr dalu’r isafswm cyflog i brentisiaid, ond efallai y bydd rhai’n dewis talu cyfraddau cyflog uwch. Bydd rhai cwmnïau’n cydnabod manteision talu mwy i’w prentisiaid, gan gynnwys gwell ymdeimlad o deyrngarwch i’r cwmni, felly mae’n rhywbeth i edrych arno wrth i chi chwilio am brentisiaeth sy’n addas i chi.

A yw prentisiaethau’n effeithio ar fudd-daliadau plant/tai?

Os bydd rhywun yn dechrau prentisiaeth, mae hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-dal plant neu fudd-dal tai yr oedd eu rhieni wedi bod yn eu derbyn ar eu rhan. Nid yw prentisiaid yn cael eu hystyried yn ‘ddibynyddion’ felly bydd cymorth ariannol gan y wladwriaeth yn dod i ben. Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, gofynnwch i’ch rhieni neu warcheidwad roi gwybod am newid i’w hamgylchiadau ynghylch Credyd Treth, Budd-dal Plant neu Fudd-dal Tai.

Allwch chi hawlio Credyd Cynhwysol wrth wneud prentisiaeth?

Mae hawl gan brentisiaid i hawlio Credyd Cynhwysol. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod ar ‘brentisiaeth gydnabyddedig’ a chael eich talu’r gyfradd isafswm cyflog cenedlaethol. Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol wrth law wrth wneud eich hawliad:

  • Enw eich darparwr hyfforddiant
  • Enw’r cymhwyster cydnabyddedig rydych chi’n gweithio tuag ato

Mae rhagor o wybodaeth am hawlio credyd cynhwysol yn ystod prentisiaeth ar gael ar ein tudalen budd-daliadau i brentisiaid.

Grant Teithio i Hyfforddi

Mae’r grant Teithio i Hyfforddi ar gael i bob cyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB sydd â phrentisiaid sy’n cael hyfforddiant ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Bydd y grant yn ad-dalu 80% o gostau llety prentisiaid sy’n mynychu colegau neu ddarparwyr hyfforddiant lle mae angen aros dros nos a theithio i/o westy.

Gall cyflogwyr hefyd wneud cais am gostau teithio prentisiaid os yw’r gost yn fwy na £20 yr wythnos.

Rhagor o wybodaeth am y grant Teithio i Hyfforddi.

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth ond ddim yn siŵr sut i fynd ati? Mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Os oes gennych chi gwestiynau neu os hoffech chi drafod eich opsiynau ym maes adeiladu, cysylltwch â ni.

Dyluniwyd y wefan gan S8080