Facebook Pixel

Gofyn Am Lysgennad

Beth yw Llysgennad STEM Am Adeiladu?

Mae Llysgenhadon STEM Am Adeiladu yn wirfoddolwyr sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu ac yn angerddol dros STEM. Maent yn cynnig eu hamser, yn rhad ac am ddim, i rannu eu profiadau o weithio ym maes adeiladu i ysbrydoli pobl ifanc i ymuno â’r diwydiant.

Daw llysgenhadon o ystod eang o gefndiroedd, o brentisiaid blwyddyn gyntaf i gyfarwyddwyr cwmni, ac maent yn cwmpasu amrywiaeth o ddisgyblaethau adeiladu, o benseiri a syrfewyr meintiau i blymwyr a pheirianwyr sifil.

Mae llysgenhadon wedi’u lleoli ar draws y DU, ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau gyrfaoedd, sgyrsiau, gweithgareddau a llawer mwy mewn ystafelloedd dosbarth a chymunedau, gan ddod â phynciau STEM a gyrfaoedd adeiladu’n fyw.


Beth all llysgenhadon ei wneud?

Gall ysgolion (cynradd ac uwchradd) a cholegau drefnu i Lysgennad STEM Am Adeiladu i ddod i mewn i’w hystafelloedd dosbarth, naill ai wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, yn rhad ac am ddim.

Mae llysgenhadon yn dangos sut mae pynciau STEM yn berthnasol yn y byd go iawn. Maen nhw’n dangos sut beth yw gyrfa mewn adeiladu mewn gwirionedd, yn dod ag offer arbenigol i bobl ifanc ei brofi ac yn gwneud STEM yn berthnasol trwy ddod â phrofiadau bob dydd i mewn i wersi. Nid oes terfyn ar y ffyrdd y gall llysgenhadon ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.


Pam drefnu llysgennad?

Gall gwahodd Llysgennad STEM Am Adeiladu i’ch ystafell ddosbarth ddod â llawer o fanteision i’ch myfyrwyr, gan gynnwys:

  • Mwy o ymgysylltiad â STEM
  • Mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd STEM
  • Gwell dealltwriaeth o bynciau STEM
  • Agor eu llygaid i fwy o ddewisiadau gyrfa
  • Mwy o ddealltwriaeth o bam mae pynciau STEM yn bwysig yn y gweithle.

Mae llysgenhadon hefyd yn helpu athrawon wrth gyflwyno eu gwersi hefyd – trwy ddod ag addysg o fusnes a diwydiant i’r ystafell ddosbarth, mae Llysgenhadon STEM Am Adeiladu yn cyfoethogi addysgu a dysgu â chyd-destunau STEM cyfredol a blaengar.

Mae gan yr holl Lysgenhadon wiriadau DBS/PVG llawn ac maent wedi cwblhau’r hyfforddiant sefydlu STEM.

Mae Llysgenhadon STEM Am Adeiladu yn cael eu cefnogi’n llawn gan adnoddau sy’n benodol i’r diwydiant, hyfforddiant a deunydd DPP i ddarparu profiad addysgol gwerth chweil ac atyniol.

Mae rhai o’r gweithgareddau y mae llysgenhadon yn eu cyflawni yn cynnwys:

  • Sefydlu, ehangu a chefnogi clybiau ar ôl ysgol
  • Sgyrsiau gyrfaoedd neu ddigwyddiadau rhwydweithio ar wib i ddisgyblion
  • Nosweithiau rhwydweithio neu DPP i athrawon
  • Cefnogi diwrnodau cyfoethogi STEM oddi ar yr amserlen
  • Cynnig mentora un-i-un i fyfyrwyr
  • Datblygu cwricwlwm, adnoddau a gweithgareddau

Ysbrydolodd y Llysgenhadon y merched mewn pynciau STEM heb gynrychiolaeth ddigonol, fel Ffiseg, trwy ddangos iddynt sut maent yn cysylltu â materion y mae merched yn poeni amdanynt a dangos iddynt sut maent yn porthi i yrfaoedd diddorol.

Hyfforddwr Addysgu a Dysgu, Harwich


Sut mae Llysgenhadon yn eich helpu chi

Trwy weithio â Llysgenhadon:

  • Mae 96% o athrawon yn gwella eu gallu i gysylltu dysgu’r cwricwlwm â gyrfaoedd
  • Mae 97% o athrawon yn cynyddu eu hyder a’u brwdfrydedd wrth addysgu pynciau STEM
  • Mae 95% o athrawon yn cynyddu eu gwybodaeth am bynciau STEM

Mae Llysgenhadon yn helpu i gyflawni meincnodau allweddol Gatsby Careers:

  • Dysgu o wybodaeth o’r farchnad yrfaol a llafur
  • Mynd i’r afael ag anghenion pob myfyriwr
  • Cysylltu dysgu’r cwricwlwm â gyrfaoedd
  • Darparu cyfarfyddiadau â chyflogwyr a gweithwyr
  • Hwyluso profiadau o weithleoedd

Sut i drefnu ymweliad gan Lysgennad STEM AM Adeiladu

Canllaw cofrestru llawn
Maint y ffeil: 2.2MB

Canllaw llawn ar sut i gofrestru ar Dysg STEM a threfnu ymweliad gan Lysgennad STEM Am Adeiladu

LAWRLWYTHO - Canllaw cofrestru llawn
Eisoes wedi cofrestru ar Dysg STEM?
Maint y ffeil: 1.7MB

Sut i drefnu ymweliad gan Lysgennad STEM Am Adeiladu os ydych eisoes wedi cofrestru ar Dysg STEM

LAWRLWYTHO - Eisoes wedi cofrestru ar Dysg STEM?

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth neu arweiniad, cysylltwch â’r tîm yma.

Dyluniwyd y wefan gan S8080