Asedau Llysgennad STEM Am Adeiladu
Casgliad o ganllawiau brand swyddogol Llysgennad STEM Am Adeiladu, logos, ffontiau, templedi a mwy i chi eu defnyddio i greu adnoddau addysgol a chefnogi eich taith fel llysgennad.
Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano gallwch gysylltu â ni yma yn Am Adeiladu i gael rhagor o wybodaeth.
Ewch i’r dudalen hon i gael gwybodaeth am wneud cais i ddod yn gennad drwy Dysgu STEM.
Ers mis Gorffennaf 2020, mae rhaglen cenhadon CITB wedi bod yn cael ei rhedeg ar y cyd â Dysgu STEM.
Dysgu STEM yw’r darparwr mwyaf o gymorth gyrfaoedd addysgol ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae ei lwyfan digidol yn gweithredu fel siop-un-stop ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau’r diwydiant, adborth ac adnoddau Am Adeiladu.
Mae ein partneriaeth â Dysgu STEM yn ein galluogi i gynnig cefnogaeth well i genhadon adeiladu a chynyddu ein cyrhaeddiad. Drwy STEM, rydyn ni’n cael mynediad at ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn 100% o ysgolion uwchradd yn y DU, sy’n ein galluogi i gysylltu â llawer mwy o bobl ifanc a’u hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Fel cennad adeiladu STEM, byddwch yn rheoli eich holl weithgareddau fel cenhadon ar lwyfan digidol Dysgu STEM.
Bydd. Bydd yr holl hyfforddiant y bydd angen i chi ei gwblhau ar gael ar ôl i chi gofrestru ar-lein.
Ar y lleiaf, bydd angen i chi gwblhau sesiwn gynefino gychwynnol yn ogystal ag asesiad diogelu. Bydd cynnwys ar-lein perthnasol arall ar gael i chi fwrw golwg drosto yn eich amser eich hun.
Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau’r sesiwn gynefino lawn ar-lein. Bydd yn eich cyflwyno i lwyfan digidol hunanwasanaeth Dysgu STEM, er mwyn i chi allu rheoli archebion ar gyfer digwyddiadau a manteisio i’r eithaf ar y system.
Os hoffech chi gael rhagor o gymorth, mae hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei gynnig yn rheolaidd drwy hybiau rhanbarthol Dysgu STEM. Mae’r cyrsiau’n ymdrin â phynciau fel sgiliau cyflwyno, diogelu a llawer mwy.
Os ydych chi’n gennad STEM yn barod ac yn dymuno cefnogi’r diwydiant adeiladu, dim ond dau beth sydd angen i chi eu gwneud! Yn gyntaf, dylech ddiweddaru eich proffil Cennad STEM presennol drwy ychwanegu’r cynllun ‘Construction and the built environment’. Yn ail, bydd angen i chi roi tic yn y blwch o dan yr adran ‘Schemes participation’ i ddweud eich bod yn fodlon rhannu eich gwaith gwirfoddoli â’r cynlluniau rydych chi’n cymryd rhan ynddyn nhw. Bydd hyn yn sicrhau bod CITB yn gallu cysylltu â chi i rannu newyddion a digwyddiadau.
Ar ôl i chi gofrestru eich diddordeb i fod yn gennad adeiladu drwy Dysgu STEM, bydd cynrychiolydd o’ch hwb STEM lleol yn cysylltu â chi i drafod beth i’w wneud nesaf. Bydd angen i chi gyflwyno copi o’ch tystysgrif DBS gyfredol (neu dystysgrif gyfatebol yr Alban) i’w chymeradwyo.
Bydd. Fel cennad adeiladu STEM byddwch yn gallu defnyddio llyfrgell ar-lein Dysgu STEM sy’n cynnwys dros 14,000 o adnoddau. Ymhen amser, byddwn yn ychwanegu adnoddau sy’n fwy penodol i’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
I gael unrhyw adnoddau ychwanegol, fel deunydd ysgrifennu, taflenni a chanllawiau gwybodaeth Am Adeiladu, anfonwch e-bost at ambassadors@citb.co.uk i ofyn am yr eitemau sydd eu hangen arnoch.
Er y bydd angen i ysgolion a cholegau gael eu cyfeirio at wefan Dysgu STEM i archebu cenhadon adeiladu, Am Adeiladu yw ein llwyfan cyfeirio ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu o hyd. Rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio pobl ifanc ac addysgwyr at Am Adeiladu i gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Er bod Dysgu STEM yn rheoli gweithrediad ein rhaglen cenhadon adeiladu o ddydd i ddydd, mae CITB wrth law i gynnig cymorth. Gallwch gysylltu â thîm cenhadon CITB yn ambassadors@citb.co.uk.
Bydd, mae gan STEM 19 o hybiau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Pan fyddwch chi’n cofrestru gyda Dysgu STEM bydd hwb lleol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer yn seiliedig ar eich cyfeiriad.
Bydd aelod o dîm eich hwb STEM lleol yn cyflwyno ei hun, yn eich cefnogi drwy eich cyfnod cynefino ac wrth law i gynnig unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnoch. I gael rhestr lawn o’r hybiau, ynghyd â’u manylion cyswllt, ewch i wefan Dysgu STEM.
Cofiwch ddiweddaru eich cyfeiriad os byddwch chi’n symud neu’n gweithio o gyfeiriad arall am gyfnodau hir.
Bydd STEM yn rhoi gwybod i chi am weithgareddau yn eich ardal drwy eich dangosfwrdd cennad personol. Gallwch hefyd lwytho ap cenhadon STEM i lawr i gael hysbysiadau ar eich ffôn.
Ar ôl i chi gofrestru â Dysgu STEM, bydd eich hwb STEM lleol yn cadw mewn cysylltiad â chi dros e-bost i rannu manylion am y cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael yn eich ardal. Os oes maes penodol yr hoffech gael cefnogaeth neu hyfforddiant amdano, gallwch gyflwyno hyn i’ch hwb STEM lleol i’w ystyried.
Bydd CITB yn darparu hyfforddiant naill ai’n uniongyrchol neu drwy Dysgu STEM. Gall fod yn hyfforddiant digidol (drwy e-ddysgu a fideos) neu hyfforddiant wyneb yn wyneb sydd wedi’i drefnu’n annibynnol neu ar y cyd â Dysgu STEM drwy hybiau rhanbarthol.
Na, dim ond drwy dagio eich hun i ddigwyddiad neu wrth gynnig eich amser neu’ch gwasanaethau’n uniongyrchol y byddwch yn rhannu gwybodaeth gyswllt gydag ysgolion a cholegau. Ar wahân i hynny, dim ond Dysgu STEM a'r partïon rydych chi wedi rhoi caniatâd iddyn nhw, fel CITB a’ch cyflogwr, fydd yn gallu gweld eich data.
Am y tro cyntaf, bydd cyflogwyr adeiladu yn gallu cofrestru ar gyfer eu dangosfyrddau eu hunain drwy Dysgu STEM. Os byddwch chi’n tagio eich cyflogwr yn uniongyrchol pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer digwyddiad, byddan nhw’n gallu cadw golwg ar eich ymrwymiadau yn ogystal â monitro eich perfformiad fel cennad.
Os oes angen i chi gael caniatâd gan eich cyflogwr cyn cofrestru ar gyfer digwyddiad, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud hynny cyn cytuno.
Mae modd addasu a diweddaru eich proffil Dysgu STEM unrhyw bryd, p’un ai a oes angen i chi newid eich manylion cyflogaeth, eich cyfeiriad neu’ch gwybodaeth gyswllt.