Gwahanol Lefelau o Brentisiaethau
Efallai eich bod wedi gweld swyddi prentisiaeth yn cael eu hysbysebu ar wahanol lefelau, ond efallai nad ydych chi’n siŵr beth mae’r lefelau’n ei olygu?
Yma rydyn ni’n egluro lefelau prentisiaethau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydyn ni’n egluro beth sydd ei angen arnoch i wneud cais amdanynt. Byddwn ni hefyd yn trafod y gwahanol lwybrau y gallech chi eu dilyn wrth i chi symud ymlaen yn eich prentisiaeth a ble i fynd nesaf.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn Am Adeiladu a gallwn ni eich helpu chi. Neu, os ydych chi’n barod, gwnewch gais am brentisiaeth a dechrau ar eich gyrfa.
Pa lefel o brentisiaeth sy’n addas i mi?
Bydd dewis y brentisiaeth orau i chi yn dibynnu ar eich profiad blaenorol. Bydd hefyd yn dibynnu ar lefel eich addysg, a'r math o swydd rydych chi'n gweld eich hun yn ei gwneud. Efallai eich bod yn awyddus i newid gyrfa a bod gennych chi gymwysterau blaenorol yn barod. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddechrau ar brentisiaeth ganolradd neu lefel uwch. Neu, efallai eich bod yn dechrau’n syth ar ôl gorffen yn yr ysgol.
Mae gennych lawer o opsiynau i’w hystyried, ond peidiwch â phoeni. Mae gan Am Adeiladu ganllaw defnyddiol ar y gwahanol ffyrdd o ddechrau arni ym maes adeiladu. Ynghyd â’r holl fanteision gwych o ddilyn prentisiaeth.
Pa mor hir allai prentisiaeth bara?
Mae’n cymryd o leiaf blwyddyn i gwblhau prentisiaeth ond, yn dibynnu ar ei lefel, gall gymryd hyd at chwe blynedd i’w chwblhau. Gall ffactorau eraill fel eich swydd yn y brentisiaeth, neu eich gyrfa a’ch profiad blaenorol hefyd effeithio ar faint o amser mae’r brentisiaeth yn ei gymryd.
Cymwysterau cyfwerth â lefel prentisiaethau
Mae lefelau prentisiaethau’n gweithio’n wahanol i lefelau academaidd arferol. Mae rhif neu rif lefel cyfatebol ar bob un ohonynt. Po uchaf yw’r rhif, y mwyaf heriol yw’r cymhwyster.
Efallai eich bod hefyd yn meddwl tybed sut maent yn cymharu â chymwysterau fel NVQ neu SVQ. Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o brentisiaethau’n integreiddio'r cymwysterau hyn i'r gwahanol lefelau.
Weithiau mae lefelau cymwysterau ychydig yn wahanol mewn gwledydd eraill. Gallwch weld yma beth mae lefel cymhwyster yn ei olygu yn y DU a gweddill Ewrop.
Dyma ddadansoddiad o bob prentisiaeth a’u lefelau. Mae hefyd yn dangos y cymhwyster academaidd y mae’n gyfwerth ag ef:
Enw |
Lefel Addysgol Gyfwerth |
TGAU |
|
Lefel A |
|
Gradd sylfaen ac uwch |
|
Gradd faglor neu feistr |
Enw |
Lefel Addysgol Gyfwerth |
Llwyddo mewn 5 TGAU gyda graddau 4-9 |
|
Llwyddo mewn 2 bwnc Safon Uwch |
|
HNC, Gradd sylfaen neu flwyddyn gyntaf Gradd israddedig |
|
Gradd Anrhydedd lawn |
Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu
Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba swyddi sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r mathau gorau o swyddi sy’n addas i chi, a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.