Y Cyfathrebwr
Mae cyfathrebu’n allweddol
P’un ai a ydynt yn gweithio gyda chymunedau lleol, yn prynu cyflenwadau swyddfa neu’n delio â logisteg, mae angen cefnogaeth ar waith adeiladu bob amser. Dyna’n union mae Cyfathrebwyr yn ei gynnig.
Mae cwsmeriaid, cleientiaid a chydweithwyr i gyd wrth eu boddau â chyfathrebwyr oherwydd maen nhw’n hawdd siarad â nhw ac mae ganddyn nhw agwedd gadarnhaol. Does dim byd yn ormod o drafferth.
Yn aml, mae cyfathrebwyr yn:
- Cynhyrchu gwaith papur a dogfennau
- Cael eu lleoli yn y swyddfa ac ar y safle
- Trefnu cyfarfodydd, gweithdai, teithio a llety
- Tywys ymwelwyr a chleientiaid o amgylch y swyddfa/safle yn rheolaidd
- Cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch ar y safle.
- Prosesu taliadau a ffeilio dogfennau anfonebau/treuliau
Dywedwch wrth eich ffrindiau eich bod yn Gyfathrebwr
Llwythwch y bathodyn i lawr a’i rannu:
Y peth pwysicaf wrth gyfathrebu yw clywed y pethau nad ydynt yn cael eu dweud.”
- Peter Drucker