Prentisiaethau Sylfaen yr Alban
Mae Prentisiaethau Sylfaen yn yr Alban yn rhoi cyfle i fyfyrwyr blynyddoedd 5 a 6 yn yr Alban gael profiad gwaith gwerthfawr yn yr ysgol, yn rhoi hwb i’w hyder ac yn rhoi cyfle i’r rheini sydd â diddordeb mewn pwnc galwedigaethol ddysgu mwy am swydd.
Beth yw Prentisiaeth Sylfaen yr Alban?
Prentisiaethau Sylfaen yr Alban yw’r lefel gyntaf o Brentisiaethau yn yr Alban. Mae Prentisiaethau Sylfaen wedi’u cynllunio i roi cyfle i bobl ifanc sy’n dal yn yr ysgol i gael profiad o fyd gwaith, ennill cymhwyster galwedigaethol ar yr un lefel â chymhwyster Uwch, ac i gefnogi cais am Brentisiaeth Fodern.
Mae cyfleoedd Prentisiaeth Sylfaen ar Lefel 6 ar gael mewn peirianneg sifil, datblygu meddalwedd, cyfrifeg a naw sector arall. Rhai o’r pynciau sydd ar gael ar Lefel 4/5 yw moduron, adeiladu a lletygarwch.
Beth sydd ei angen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Sylfaen yr Alban?
Gan y byddwch chi ym Mlwyddyn 5 neu 6 o hyd, ni fydd angen unrhyw gymwysterau ar gyfer ceisiadau am Brentisiaethau Sylfaen. Bydd nifer y pynciau neu’r sectorau swyddi sydd ar gael yn amrywio o un ysgol i’r llall. Gofynnwch i gynghorydd gyrfaoedd eich ysgol am ragor o wybodaeth neu defnyddiwch wefan Apprenticeships.Scot i weld beth sydd ar gael yn eich ysgol chi.
Pa oedran sydd angen i mi fod?
Mae Prentisiaethau Sylfaen yn agored i fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol sy’n dilyn eu cyrsiau 5 Cenedlaethol ac Uwch.
Faint o Brentisiaethau Sylfaen sydd ar gael?
Mae 12 o Brentisiaethau Sylfaen ar gael ar SCQF Lefel 6, gan gynnwys Cyfrifeg, Peirianneg Sifil, Gwasanaethau Ariannol, Cyfryngau Creadigol a Digidol a Thechnolegau Gwyddonol. Mae tri phwnc ar gael ar lefel 4/5: Moduron, Adeiladu a Lletygarwch.
Sut bydd Prentisiaeth Sylfaen yn datblygu fy ngyrfa?
Mae Prentisiaeth Sylfaen yn ffordd ddelfrydol o gael profiad o’r byd gwaith am y tro cyntaf. Bydd pobl ifanc sydd â diddordeb mewn pwnc galwedigaethol yn ennill sgiliau, profiad a gwybodaeth, yn ogystal â chymhwyster galwedigaethol. Pan fydd yr amser i adael yr ysgol yn cyrraedd, bydd mwy o opsiynau ar gael i chi, ac os byddwch chi’n gwneud cais am Brentisiaeth Fodern, gallwch chi nodi ar eich CV y profiad a gawsoch chi ar eich Prentisiaeth Sylfaen.
Mae cyflogwyr yn debygol o’ch ystyried yn fwy ffafriol, oherwydd eich bod chi wedi dangos ymrwymiad i’r maes o’ch dewis drwy ymgymryd â dysgu achrededig yn y gwaith. Mae gennych brofiad o ddiwydiant yn y byd go iawn, ac efallai na fydd gan ymgeiswyr eraill am swyddi sy’n gadael yr ysgol y profiad hwnnw.
Mae prentisiaid blaenorol wedi dweud sut y gwnaeth Prentisiaeth Sylfaen helpu i gau’r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a’r gweithle.
Sut mae gwneud cais am Brentisiaeth Sylfaen yn yr Alban?
Os hoffech chi ddechrau ar y droed flaen yn eich gyrfa gyda Phrentisiaeth Sylfaen, a’ch bod chi’n byw yn yr Alban, ewch i wefan Apprenticeships.scot i gael rhagor o fanylion, astudiaethau achos a chwilio am swyddi gwag.