Pa brentisiaethau alla i eu gwneud pan rwy’n 16 oed?
Cyn gynted ag y byddwch chi’n 16 oed, rydych chi’n ddigon hen i wneud cais am brentisiaeth yn y DU. Er na fyddwch chi’n gallu dechrau’r brentisiaeth nes eich bod wedi gadael yr ysgol yng Nghymru neu Loegr, gallwch chi wneud cais cyn i chi adael yr ysgol. Yn yr Alban, mae’n bosibl cyfuno rhai prentisiaethau â’ch astudiaethau yn ystod eich dwy flynedd olaf yn yr ysgol.
Mae prentisiaeth yn swydd gyda hyfforddiant. Rydych chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, a bydd y swm rydych chi’n ei gael yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Erbyn diwedd y brentisiaeth, byddwch chi wedi ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol a fydd yn eich helpu chi i symud ymlaen i’r yrfa o’ch dewis.
Pa brentisiaethau alla i eu gwneud pan rwy’n 16 oed?
Prentisiaethau canolradd i bobl ifanc 16 oed
Prentisiaethau Lefel 2 yw’r rhain ac fel arfer mae’n cymryd 12-18 mis i’w cwblhau. Mae'r cymhwyster y byddwch chi’n ei ennill yn cyfateb i bump TGAU, neu NVQ Lefel 2. Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Ganolradd, gallwch chi symud ymlaen i waith amser llawn, neu wneud cais am Uwch Brentisiaeth.
Yn yr Alban, gallwch chi ddilyn prentisiaeth Sylfaen tra byddwch chi’n dal ym mlynyddoedd 5 a 6. Yng Nghymru, gallwch chi ddilyn prentisiaeth Sylfaen pan fyddwch chi’n 16 oed.
Uwch Brentisiaethau i bobl ifanc 16 oed
Os ydych chi wedi pasio digon o gymwysterau TGAU, gallwch chi fynd yn eich blaen yn syth i brentisiaeth uwch pan fyddwch chi’n 16 oed. Prentisiaethau Lefel 3 yw’r rhain ac fel arfer mae’n cymryd 2-4 blynedd i’w cwblhau. Mae'r cymhwyster y byddwch chi’n ei ennill yn cyfateb i ddwy Safon Uwch, neu NVQ Lefel 3. Mae cwblhau uwch brentisiaeth yn aml yn golygu eich bod yn gymwys i weithio mewn rhai crefftau, a byddwch chi wedi cael llawer iawn o brofiad a sgiliau yn y swydd.
Yng Nghymru, gelwir y math cyfatebol o brentisiaeth yn lefel Prentisiaeth safonol a gallwch chi wneud cais hyd yn oed os nad ydych chi eisoes wedi gwneud prentisiaeth Sylfaen. Yn yr Alban, gallwch chi ddilyn Prentisiaeth Fodern pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Fel arfer, gallwch chi wneud cais am Brentisiaeth Ganolradd gyda dau gymhwyster TGAU, ond bydd gan rai cyflogwyr ofynion mynediad gwahanol. Mae Saesneg a Mathemateg yn ddau bwnc y bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr am i chi eu pasio. Mae uwch brentisiaethau fel arfer yn gofyn am o leiaf bum cymhwyster TGAU. Dylai Saesneg a Mathemateg fod yn ddau o’r rhain.
Efallai y bydd cyflogwr yn eich derbyn ar gyfer prentisiaeth Ganolradd hyd yn oed os nad oes gennych ddigon o gymwysterau TGAU. Efallai y bydd eich brwdfrydedd yn eich cyfweliad neu unrhyw brofiad gwaith sydd gennych chi wedi gwneud argraff arnynt. Mae bob amser yn bosibl i chi ailsefyll eich TGAU Saesneg a Mathemateg fel rhan o’ch prentisiaeth, gan y bydd yn ddefnyddiol i’w cael.
Yn yr Alban, byddai disgwyl i ymgeiswyr am brentisiaethau modern fod â thri neu fwy o gymwysterau Cenedlaethol 4, neu Raddau Safonol ar lefel gyffredinol. Does dim angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer prentisiaethau sylfaen yng Nghymru a’r Alban. Ar gyfer prentisiaeth safonol yng Nghymru, bydd angen i chi gael tri chymhwyster TGAU.
Sut mae gwneud cais am brentisiaeth?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaethau yn Lloegr yn 16 oed, gallech chi edrych ar wefannau fel Talentview, TotalJobs, Indeed neu wasanaeth prentisiaethau’r llywodraeth. Gallwch chi wneud cais am brentisiaethau drwy lanlwytho eich CV neu wneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr.
Yn yr Alban, gallwch chi fynd i wefan Apprentiships.scot i gael rhagor o fanylion, astudiaethau achos a chwilio am swyddi gwag. Os ydych chi yng Nghymru, mae gwefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhagor o fanylion am brentisiaethau y gallwch chi eu gwneud yn 16 oed, y swyddi gwag diweddaraf, gofynion mynediad ac astudiaethau achos.
Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu
Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu ar fin gadael yr ysgol, ydych chi wedi meddwl am brentisiaeth adeiladu? Maen nhw’n ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gan Am Adeiladu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi er mwyn i chi ddechrau arni, gan gynnwys canllawiau i dros 170 o wahanol swyddi.