Gradd-brentisiaethau yng Nghymru
Mae Gradd-brentisiaeth yng Nghymru yn rhoi cyfle i bobl yng Nghymru sydd wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch, sydd â Safon Uwch neu gymhwyster Lefel 5 i gyfuno gwaith amser llawn ag astudio ar gyfer gradd baglor neu radd meistr mewn prifysgol neu goleg.
Beth yw Gradd-brentisiaethau yng Nghymru?
Mae Gradd-brentisiaeth yng Nghymru yr un fath â phrentisiaeth ar lefel gradd yn Lloegr, ac yn debyg i Brentisiaeth Raddedig yn yr Alban, ac mae’n arwain at gymhwyster Lefel 6/7.
Cyflogwyr ar y cyd â phrifysgolion a cholegau sy’n datblygu cymwysterau Gradd-brentisiaeth. Maen nhw wedi'u cynllunio i lenwi bylchau sgiliau yn y gweithlu, yn y meysydd Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch i ddechrau, ac fel dewis arall yn lle rhaglenni gradd traddodiadol. Mae’r cymhwyster y mae prentisiaid yn ei ennill yn cyfateb i Lefel 6 (gradd faglor) a Lefel 7 (gradd feistr). Mae gradd-brentisiaethau fel arfer ar gael i bobl sydd eisoes yn gweithio i gyflogwyr neu drwy wneud cais i gyflogwr penodol.
Bydd rhai prentisiaethau ar gael yn Gymraeg – gall y brifysgol neu’r coleg ddarparu manylion os oes angen hyfforddiant Cymraeg neu ddwyieithog arnoch chi, neu os oes angen sgiliau siarad neu ysgrifennu Cymraeg arnoch chi.
Beth sydd ei angen arnaf i wneud cais am Radd-brentisiaeth yng Nghymru?
Y gofynion mynediad arferol er mwyn cael mynediad i Radd-brentisiaethau yng Nghymru yw pasio pum TGAU ar raddau 9-4 a chymwysterau Lefel 3 fel Safon Uwch, NVQ neu BTEC Cenedlaethol. Efallai y bydd rhai darparwyr prentisiaethau yn mynnu eich bod yn pasio Safon Uwch mewn pynciau penodol a gyda graddau o fewn ystodau penodol.
Pa oedran sydd angen i mi fod?
Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr dros 18 oed gan fod angen cymwysterau Lefel 3 ar gyfer Gradd-brentisiaethau yng Nghymru. Rhaid i chi fyw yng Nghymru, bod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU a pheidio â bod mewn addysg amser llawn yn barod.
Faint o Radd-brentisiaethau sydd ar gael yng Nghymru?
Dysgu seiliedig ar waith yw Gradd-brentisiaethau, sy’n rhaglenni cymharol newydd yng Nghymru. I ddechrau, roedd Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn blaenoriaethu cyllid ym meysydd Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau mewn Peirianneg Fecanyddol, Technolegau Lled-ddargludyddion a Gwyddor Data Cymhwysol ymhlith eraill.
Mae cwmpas Gradd-brentisiaethau newydd yn cael ei ehangu. Er enghraifft, mae cyfleoedd bellach ym maes Plismona Gweithredol ym Mhrifysgol De Cymru.
Sut bydd Gradd-brentisiaeth yng Nghymru yn datblygu fy ngyrfa?
Gradd-brentisiaethau yw’r lefel uchaf o gymhwyster prentisiaeth y gallwch chi ei ennill yng Nghymru. Ar ôl ei gwblhau, bydd gennych chi radd, a hefyd cyfoeth o brofiad gwaith, a byddwch chi wedi gallu ennill cyflog ar yr un pryd. Gallai hyn eich rhoi ar y droed flaen o’i gymharu â rhai pobl o’r un oedran â chi a allai fod yn mynd i fyd gwaith am y tro cyntaf.
Mae gweithio ac astudio tuag at Radd-brentisiaeth yn gwella eich sgiliau, eich arbenigedd a’ch gwybodaeth yn y maes o’ch dewis, a byddwch chi’n creu cysylltiadau amhrisiadwy â chyflogwyr yn ystod eich prentisiaeth.
Sut mae gwneud cais am Radd-brentisiaeth yng Nghymru?
Ar hyn o bryd, does dim cronfa ddata y gallwch chi chwilio drwyddi i ddod o hyd i gyfleoedd Gradd-brentisiaeth yng Nghymru, ond rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â'r sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cyrsiau Gradd-brentisiaeth. Mae’r rhain ar gael ar wefan Gyrfa Cymru.