Prentisiaethau Uwch
Gall Prentisiaethau Uwch (Lefel 4) fod yn NVQ Lefel 4 neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND). Gallan nhw hefyd fod yn radd sylfaen. Mae rhai yn cynnig y cyfle i symud ymlaen i lefel gradd ôl-raddedig (Lefel 7).
Gall gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau Prentisiaeth Uwch. Mae swydd barhaol yn disgwyl amdanoch ar ddiwedd llawer o Brentisiaethau Uwch. Os nad yw'r cwmni'n eich recriwtio, byddwch chi’n dal i fod yn ymgeisydd hynod gyflogadwy.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Uwch?
Mae'r gofynion mynediad ar gyfer prentisiaethau uwch yn cynnwys o leiaf pump TGAU gyda graddau A* i C, gan gynnwys Saesneg a mathemateg. Rhwng 9 a 4 yw hyn ar y system raddio newydd.
Efallai y bydd cyflogwyr hefyd yn gofyn am gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys Safon Uwch, NVQ, neu BTEC. Mae rhai cyflogwyr yn disgwyl i chi fod wedi astudio pynciau sy’n berthnasol i’r brentisiaeth. Gallai hyn gynnwys gwyddoniaeth neu beirianneg.
Rydw i wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch. Beth nesaf?
Ar ôl cael Prentisiaeth Uwch yn Lloegr, gallwch chi symud ymlaen i Radd-brentisiaeth, neu gallwch chi ddechrau gweithio’n llawn amser os ydych chi’n teimlo’n barod. Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch, bydd ystod ehangach o swyddi ar gael i chi, na phe baech wedi cwblhau Prentisiaeth Ganolradd yn unig.
Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu
Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba swyddi sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r mathau gorau o swyddi sy’n addas i chi, a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.