Ddylwn i ddewis mynd i’r brifysgol neu ddilyn prentisiaeth?
Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd bron yn ail natur i ddewis mynd i’r brifysgol – roedd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn meddwl y byddai’n arwain at well swydd â thâl, dewis ehangach o yrfaoedd, neu well bywyd cymdeithasol.
Erbyn hyn, fodd bynnag, dydi pethau ddim mor glir. Bydd dewis p’un ai prentisiaeth neu brifysgol yw’r dewis gorau yn dibynnu ar nifer o bethau, a bydd yn fater o ddewis personol i raddau helaeth.
Beth am y brifysgol?
Ar gyfer rhai gyrfaoedd, mae gradd prifysgol yn hanfodol. Felly, os ydych chi am fod yn athro, yn feddyg neu'n gyfreithiwr, bydd angen i chi fynd i'r brifysgol. Wrth astudio gradd draddodiadol yn y brifysgol, gallech chi wneud nifer o swyddi ochr yn ochr â’ch gradd i geisio ennill incwm, ond byddai’n anodd i chi gael yr un faint o brofiad gwaith ag y byddech chi’n ei gael ar brentisiaeth. Felly, y brifysgol yw’r lle mwyaf addas ar gyfer y rheini y mae’n well ganddyn nhw ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Byddwch chi’n cael mwy o amser rhydd yn y brifysgol o amgylch eich astudiaethau, sy’n aml yn cael ei ystyried yn un o fanteision mawr bod yn fyfyriwr amser llawn. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfle i brofi bywyd mewn rhan wahanol o'r wlad, ac efallai i fyw oddi cartref am y tro cyntaf. Mae gan y Brifysgol enw da am fod yn 'flynyddoedd gorau eich bywyd' oherwydd y bywyd cymdeithasol y gallwch chi ei fwynhau - ond nid yw'n addas i bawb.
Erbyn i chi adael y brifysgol, bydd gennych chi ddyledion sylweddol – gall prifysgolion yn y DU godi ffioedd dysgu o hyd at £9,250 y flwyddyn, sy'n rhoi cyfanswm o bron i £30,000 dros gwrs tair blynedd.
Ai graddedigion sy’n cael y swyddi gorau i gyd?
Ddim bellach. Mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn mynd i brifysgol. Yn 2021, dechreuodd bron i 40% o holl boblogaeth y DU a oedd yn 18 oed gwrs israddedig amser llawn. Yn 1990, 25% oedd y ffigur hwn, ac yn 1980 dim ond 15% arhosodd mewn unrhyw fath o addysg amser llawn. Mae hyn yn dangos bod llawer iawn o gystadleuaeth i unrhyw un sydd â gradd wrth ymgeisio am swyddi. Roedd cael gradd yn arfer gwneud i ymgeisydd sefyll allan, ond yn gynyddol mae wedi dod yn un o’r meini prawf sylfaenol ar gyfer rhai cyflogwyr.
Beth am brentisiaeth?
Os ydych chi wir yn gwybod pa waith rydych chi eisiau ei wneud, yna mae prentisiaeth yn cynnig dysgu galwedigaethol wedi’i dargedu ynghyd â swydd go iawn sy’n talu cyflog. Pan fydd myfyrwyr prifysgol yn wynebu dyledion, bydd prentisiaid yn ennill cyflog yn lle hynny. Os byddwch chi'n dal i fyw gartref, efallai y gallwch chi hyd yn oed ddechrau cynilo ar gyfer blaendal ar dŷ - rhywbeth sydd y tu hwnt i gyrraedd myfyrwyr yn llwyr!
Ar ddiwedd eich prentisiaeth (mae rhaglenni prentisiaeth uwch fel arfer yn cymryd 2-4 blynedd), byddech chi’n gymwys ar gyfer swydd benodol. Byddai gennych chi sgiliau trosglwyddadwy a chyfoeth o brofiad gwaith. Byddai hyn yn rhoi mantais sylweddol i chi dros rywun sydd wedi gwneud gradd prifysgol mewn pwnc na ellir ei gymhwyso’n uniongyrchol i unrhyw ddiwydiant.
A all prentisiaid ennill mwy na graddedigion?
Mae gan brentisiaid gryn botensial i ennill cyflog. Mae ymchwil yn dangos y gall prentisiaid ennill hyd at 270% yn fwy na graddedigion prifysgol yn ystod eu hoes. Efallai y bydd prentisiaid yn dechrau drwy ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a’r cyflog cychwynnol cyfartalog i raddedigion yw £24,000-£30,000, ond mae cyflogau prentisiaid medrus yn cynyddu’n sylweddol po fwyaf cymwys ydynt. Er enghraifft, gall peirianwyr tyrbinau gwynt profiadol ennill hyd at £80,000.
Gradd-brentisiaethau – y gorau o’r ddau fyd
Mae gradd-brentisiaethau yn ddewis arall yn lle graddau traddodiadol. Maen nhw’n caniatáu i brentisiaid gyfuno gwaith amser llawn ag astudio ar gyfer gradd baglor neu radd meistr mewn prifysgol neu goleg. Maen nhw wedi cael eu cynllunio i lenwi bylchau sgiliau yn y gweithlu, ond maen nhw ar gael fwyfwy mewn swyddi ehangach. Mae gradd-brentisiaethau fel arfer ar gael i bobl sydd eisoes yn gweithio i gyflogwyr neu drwy wneud cais i gyflogwr penodol.
I bob pwrpas, mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich talu i weithio ac astudio yn y brifysgol. Mae cyfleoedd gradd-brentisiaeth ar gael mewn amrywiaeth eang o swyddi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Mae’n ddewis personol
Prentisiaeth
Pethau positif
- Hyfforddiant galwedigaethol wedi’i dargedu
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Pethau negyddol
- Llai o amrywiaeth o swyddi
- Cyflog is i ddechrau
Y Brifysgol
Pethau positif
- Ystod ehangach o bynciau
- Rhyddid ac annibyniaeth
- Cyfleoedd gyrfa amrywiol
Pethau negyddol
- Dyled
- Dim sicrwydd o swydd sy’n talu’n dda
Dod o hyd i brentisiaeth
Mae llawer o ffyrdd o chwilio ac ymgeisio am brentisiaethau. Gallech chi edrych ar wefannau fel Talentview, TotalJobs, Indeed neu wasanaeth prentisiaethau’r llywodraeth. Gallwch chi wneud cais am brentisiaethau drwy lanlwytho eich CV neu wneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr.