Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn swydd â thâl gyda hyfforddiant sy’n rhoi cyfle i bobl ennill sgiliau a chymwysterau mewn diwydiant penodol.
Ar ddiwedd prentisiaeth, dylai prentisiaid cymwys feddu ar y sgiliau a’r profiad i gymryd swydd gyda chyflogwr, neu ddechrau gyrfa mewn crefft neu ddiwydiant penodol.
Sut mae prentisiaethau’n gweithio?
Swyddi gydag elfen o hyfforddiant yw prentisiaethau. Mae amser yn cael ei neilltuo bob wythnos neu bob mis, er mwyn i bob prentis gael hyfforddiant ac astudio. Mae prentisiaethau’n cael eu hysbysebu fel swyddi arferol, gyda phroses ymgeisio a chyfweld. Byddwch chi’n cael cyflog, a allai fod yn llai na swyddi tebyg, ond rhaid i'ch cyflogwr chi gynnig o leiaf 30 awr o waith yr wythnos i chi (gan gynnwys hyfforddiant).
Mae o leiaf 20% o amser prentis yn cael ei dreulio yn hyfforddi. Mae hyn fel arfer yn cyfateb i un diwrnod yr wythnos o hyfforddiant mewn coleg. Mae prentisiaid yn astudio ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at eu siawns o symud ymlaen yn eu gyrfa. Mae gan ddiwydiannau ddiddordeb mewn cynnig prentisiaethau; mae angen pobl newydd arnyn nhw i ddysgu’r sgiliau i barhau â’r crefftau hyn, neu i lenwi eu swyddi gwag eu hunain yn y dyfodol.
Edrychwch ar beth mae prentis adeiladu yn ei wneud yn ei swydd.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng swydd a phrentisiaeth?
Gyda swydd arferol, does dim rhaid i gyflogwr ddarparu unrhyw hyfforddiant oddi ar y safle nac addysg alwedigaethol. Byddai tasgau yn cael eu dyrannu i rywun mewn swydd arferol a byddai disgwyl iddyn nhw eu cyflawni; bydd prentis yn cael tasgau i’w gwneud, ond eu nod nhw fydd cyflawni’r amcan cyffredinol o wella sgiliau’r prentis mewn swydd benodol.
Llwybrau i bobl gael mynediad i ddiwydiannau yw prentisiaethau, yn syth o’r ysgol neu’r coleg fel arfer. Byddwch chi’n rhannu eich amser mewn prentisiaeth rhwng profiad yn y gwaith gyda chyflogwr a darparwr hyfforddiant.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer prentisiaeth?
Bydd prentisiaethau’n fwyaf addas ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol neu bobl ifanc sydd newydd adael addysg amser llawn – ond gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais am brentisiaeth. Dylech chi fod yn byw yn y DU ac ni ddylech chi fod mewn addysg amser llawn. Gallwch chi wneud cais am brentisiaeth tra rydych chi’n dal yn yr ysgol a heb fod yn 16 oed eto, ond mae’n rhaid eich bod wedi dathlu eich pen-blwydd yn 16 oed erbyn i chi ddechrau’r brentisiaeth.
Faint mae prentisiaid yn cael eu talu?
Rhaid talu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol i brentisiaid dros 23 oed. Os ydych chi rhwng 16 a 23 oed, rydych chi’n gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar wahanol lefelau. Er hynny, dim ond y lefelau isafswm cyflog yw’r rhain. Gall prentisiaid ennill hyd at £20,000 ar gyfer swyddi penodol mewn diwydiannau penodol.
Mathau o brentisiaethau
Mae gwahanol lefelau o brentisiaethau. Bydd hyd eich prentisiaeth chi’n dibynnu ar eich profiad presennol, eich cymwysterau a’r swydd rydych chi’n ei dewis.
Mae’r gwahanol lefelau o brentisiaethau yn golygu y gallwch chi ymuno ar lefel sy’n addas i chi a symud ymlaen yn eich gyrfa. Dyma’r mathau o brentisiaethau sydd ar gael:
Lloegr
Enw |
Lefel Addysgol Gyfwerth |
TGAU |
|
Lefel A |
|
Gradd sylfaen ac uwch |
|
Gradd faglor neu feistr |
Yr Alban
Enw |
Lefel Addysgol Gyfwerth |
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4/5 neu Lefel Uwch 6 |
|
Prentisiaeth Uwch 6, Uwch Brentisiaeth 7, Dyfarniadau, Bagloriaeth yr Alban |
|
Dyfarniadau Datblygiad Proffesiynol 9-11 |
Cymru
Enw |
Lefel Addysgol Gyfwerth |
Llwyddo mewn 5 TGAU gyda graddau 4-9 |
|
Llwyddo mewn 2 bwnc Safon Uwch |
|
HNC, Gradd sylfaen neu flwyddyn gyntaf Gradd israddedig |
|
Gradd Anrhydedd lawn |
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau
Os ydych chi’n meddwl bod prentisiaeth yn addas i chi, dysgwch am y gwahanol lefelau, y gofynion mynediad, pa swyddi prentisiaeth sydd ar gael ym maes adeiladu a sut mae gwneud cais.