SOS: Her lloches allgymorth gynaliadwy
SOS: Her Lloches Allgymorth Gynaliadwy
Bydd y dysgwyr yn dychmygu eu bod yn Beirianwyr ac yn llunio erthygl papur newydd sy’n disgrifio sut maen nhw wedi trawsnewid stadiwm yn lle sy’n rhoi lloches i’r rheini sydd ei angen fwyaf.
Yn eich Pecyn Her, fe gewch chi bopeth sydd ei angen arnoch i annog y bobl ifanc i weithio ar brosiect anhygoel, yn yr ysgol neu gartref.
Mae’r her hon yn cael ei chyflwyno gan ein partner, Class Of Your Own. Ewch i'w wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r ffeil sip yn cynnwys pedair ffeil PDF:
- Briff yr Her
- Canllawiau i Athrawon a Rhieni
- Prif Stori Papur Newydd DEC Times
- Tystysgrif Gwobr DEC Discover
Dechreuwch gyda Phrif Stori Papur Newydd, mae’r her wedi’i nodi ym Mrîff yr Her, ac mae canllawiau i chi yn y Canllawiau i Athrawon/Rhieni.
Ar ôl i’r bobl ifanc gwblhau’r her, gallwch gyflwyno Tystysgrif Gwobr DEC wedi’i phersonoli iddyn nhw.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Prosiect bach perffaith i gyflwyno pobl ifanc i fyd cyffrous yr Amgylchedd Adeiledig am y tro cyntaf. Addas i ddysgwyr hyd at 16 oed – ychwanegiad ardderchog at eu CVs.
Faint o amser y bydd yn gymryd?
Dylai’r dasg gymryd 15 awr i’w chwblhau, a'r canlyniad fydd erthygl papur newydd wedi’i gorffen gan y myfyrwyr.