Her Tŵr Brics
Enw’r Gweithgaredd:
Her Tŵr Brics
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae hwn yn weithgaredd tîm cyffrous lle mae’r cyfranogwyr yn gweithredu fel cwmnïau adeiladu bach i gynllunio, dylunio, costio (tendro) ac adeiladu tŵr wedi’i wneud o frics Lego.
Mae’r gweithgaredd yn dechrau gyda chyflwyniad powerpoint sy’n ysgogi trafodaeth ar ddylunio a defnydd yr adeilad tŵr, yn ogystal ag archwilio gyrfaoedd adeiladu a sgiliau menter.
Nod y Gweithgaredd:
- Hyrwyddo sgiliau gweithio mewn tîm, datrys problemau a chyfathrebu drwy efelychu prosiect adeiladu
- Edrych ar yrfaoedd ym maes adeiladu
- Cyflwyno sgiliau menter ar ffurf costio, tendro ac elw.
Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir): 11-16 oed
Maint y Grŵp: Mae uchafswm o 30 o gyfranogwyr gyda chwe thîm o bump o bobl yn ddelfrydol, ond bydd yr ymarfer yn gweithio gyda llai neu fwy o bobl, yn dibynnu ar yr amser a’r adnoddau sydd ar gael (yn enwedig y Lego).
Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Daflen Flaen y Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:
- Paratoi a’r Adnoddau y bydd eu hangen arnoch
- Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestyn
- Amserlen a Awgrymir
Llwytho dogfennau i lawr
Llwytho Pob Ased i Lawr:
Llwythwch yr holl asedau i lawr ar gyfer yr Her Tŵr Brics
Llwythwch pob dogfen i lawr ar gyfer yr Her Tŵr Brics.