Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd
Enw’r Gweithgaredd:
Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae Her Cymunedau Cynaliadwy CREST yn weithgaredd tîm cyffrous a gwerth chweil lle mae’n rhaid i gyfranogwyr gynllunio datblygiad tai cynaliadwy.
Er mwyn cael y dechrau gorau posibl, rydym yn argymell yn ddelfrydol y dylai’r prosiect ddechrau gydag ymweliad â safle ‘byw’.
Mae angen i fentor gefnogi’r cyfranogwyr yn eu gwaith. Gall y person hwn fod o ddiwydiant neu, fel arall, fod yn arweinydd gweithgareddau neu’n arweinydd grŵp.
Dyma fideo byr yn egluro am Wobrau CREST – Cymunedau Cynaliadwy Lefel Efydd.
Nod y Gweithgaredd: Nod Gwobrau CREST yw codi ymwybyddiaeth o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymysg pobl ifanc, a thynnu sylw at y gyrfaoedd ym maes adeiladu sy’n gysylltiedig â’r pynciau hyn.
Erbyn diwedd y prosiect, dylai cyfranogwyr fod wedi llunio cynnig tîm ar gyfer eu datblygiad tai ac adroddiad unigol yn pwyso a mesur yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn ystod y broses. Dylent hefyd amlinellu rôl pob unigolyn yn y tîm a sut roedd y rolau’n ategu ei gilydd wrth iddynt ddiffinio a chwblhau cynnig y tîm.
Cynulleidfa: (Oed a Argymhellir) 11-16 oed
Maint y Grŵp: Does dim cyfyngiad ar faint y grŵp yn gyffredinol, ond efallai y bydd angen i gwmnïau adeiladu sy’n cynnal ymweliadau safle gyfyngu ar y niferoedd sy’n cael bod ar safle ‘byw’ ar yr un pryd. Cynlluniwch ymlaen llaw i sicrhau bod ymweliadau wedi cael eu cynllunio a’u hystyried yn ofalus.
Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i’r daflen Crynodeb o’r Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:
- Paratoi a’r Adnoddau y bydd eu hangen arnoch
- Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestyn
- Amserlen a Awgrymir
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Llwythwch bob dogfen i lawr ar gyfer Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd.