Her Ciwb Sgaffaldiau
Enw’r Gweithgaredd:
Her Ciwb Sgaffaldiau
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae’r gweithgaredd Ciwb Sgaffaldiau’n weithgaredd rhyngweithiol, ymarferol sy’n helpu i gynnig gwell dealltwriaeth o ddefnyddiau a phwysigrwydd sgaffaldiau yn y sector adeiladu, a chymhlethdodau’n ymwneud â nhw.
Nod y Gweithgaredd:
Mae’r gweithgaredd Ciwb Sgaffaldiau’n weithgaredd rhyngweithiol, ymarferol sy’n helpu i gynnig gwell dealltwriaeth i gyfranogwyr 14 oed - oedolion o ddefnyddiau a phwysigrwydd sgaffaldiau yn y sector adeiladu, a chymhlethdodau’n ymwneud â nhw. Gan ddefnyddio sgiliau allweddol fel gweithio mewn tîm a dilyn cyfarwyddiadau, mae’r cyfranogwyr yn creu ciwb sgaffaldiau gan ddefnyddio pibellau PVC a chysylltwyr ceblau, ac yn cael profiad o’r weithdrefn gywir ar gyfer adeiladu strwythurau sgaffaldau diogel a dysgu’r derminoleg gywir. Mae’r gweithgaredd hefyd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu mwy am fyd adeiladu, a gyrfa ym maes sgaffaldiau yn benodol.
Hyfforddiant Sgaffaldiau “Tiwb Ciwb” CISRS
Canllaw cam wrth gam i adeiladu’r ciwb sgaffaldiau.
Gwyliwch fwy o fideos ar sianel YouTube NASCLondon.
Ffilm CISRS
Ffilm hyrwyddo newydd CISRS (Cynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu) sy’n ceisio denu pobl i yrfa werth chweil fel sgaffaldwyr drwy gynllun hyfforddi CISRS.
Gwyliwch fwy o fideos ar sianel YouTube NASCLondon.
Llwytho dogfennau i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Her Ciwb Sgaffaldiau – Pob Dogfen sydd eu hangen ar gyfer yr her.