Byw Mewn Ffordd Wyrdd
Enw’r Gweithgaredd:
Byw Mewn Ffordd Wyrdd
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae Byw Mewn Ffordd Wyrdd yn weithgaredd tîm sy’n edrych ar effaith datblygiadau tai ar yr amgylchedd ac ar y gymuned.
Bydd cyfranogwyr yn cynllunio ac yn cynhyrchu cynllun model ar gyfer datblygiad tai cymysg cynaliadwy, yn ogystal â llunio dogfen dendro a chyflwyniad o’u syniadau.
Nod y Gweithgaredd:
Annog cyfranogwyr i ystyried rhai o’r themâu allweddol sy’n ymwneud â dylunio cynaliadwy, yn ogystal â chyflwyno rhai gyrfaoedd proffesiynol a rheolaethol ym maes adeiladu i’r cyfranogwyr.
Ceir pwyslais ar waith tîm, rheoli amser, cyllid a sgiliau cyflwyno.
Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):
- 11 oed - oedolyn
- Gellir addasu’r gweithgaredd ar gyfer cynulleidfaoedd iau
Maint y Grŵp: Dylai cyfranogwyr weithio mewn grwpiau o 4-6 o bobl.
Cyfyngir ar faint cyffredinol y grŵp yn ôl faint o amser sydd ei angen ar bob grŵp i roi cyflwyniad 2 funud o hyd.
Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Daflen Flaen y Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:
- Paratoi a’r Adnoddau y byddwch eu hangen
- Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestyn
- Amserlen a Awgrymir
Archwilio Adeiladu Tai
Llwythwch y gweithgaredd 'Archwilio Adeiladu Tai' a’i ddefnyddio mewn ymateb i broblem 'go iawn' yn y sector adeiladu tai.
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Llwythwch yr holl ddogfennau i lawr ar gyfer y Gweithgaredd Byw Mewn Ffordd Wyrdd.