Class Of Your Own
Ers degawd a mwy, mae menter gymdeithasol ac ymgynghoriaeth addysg y DU, Class Of Your Own (COYO) wedi bod yn ysbrydoli plant i brofi’r Seilwaith a’r Amgylchedd Adeiledig digidol drwy Raglen Dysgu ‘Design Engineer Construct!’ (DEC).
Mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle unigryw i ddatblygu’r wybodaeth, y cymwyseddau, yr ymddygiad a’r sgiliau sy’n hanfodol i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu.

Pwy ydy Class Of Your Own?
Mae Class Of Your Own (‘COYO’) yn fusnes cymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg ar gyfer yr amgylchedd adeiledig ac mae wedi creu Rhaglen Dysgu ysbrydoledig ‘Design Engineer Construct!’ (‘DEC’)
A hwythau'n dîm o weithwyr proffesiynol ym maes addysg a’r diwydiant, mae COYO yn bodoli i ‘addysgu dyfodol y diwydiant Adeiladu’, ac yn cefnogi pobl ifanc i sicrhau cyfleoedd anhygoel mewn diwydiant digidol.
Ers dros 10 mlynedd, mae COYO wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ledled y DU ac o amgylch y byd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno DEC - cwricwlwm sy’n seiliedig ar brosiectau yn y byd go iawn sy’n ysbrydoli llwybrau technegol a phroffesiynol i ddylunio, adeiladu a chreu byd mwy cynaliadwy.
Gyda chefnogaeth diwydiant a’r byd academaidd, mae DEC yn galluogi myfyrwyr (a’u hathrawon) i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant adeiladu modern drwy gydol y rhaglen dysgu, gan gynnwys defnyddio meddalwedd arloesol ar gyfer dylunio adeiladau a seilwaith.
Adnoddau i athrawon
Mae Class Of Your Own yn darparu adnoddau i athrawon ar draws sawl Cyfnod Allweddol. Gallwch ddod o hyd i’r rhain ar ein tudalen adnoddau i athrawon.
Pan fyddwn ni’n llwyddo, felly mae’r athrawon a’r plant a phobl ifanc rydyn ni’n bodoli ar eu cyfer.
Class Of Your Own
Rhagor o wybodaeth
I ddysgu mwy am Class Of Your Own a’r cyfan sydd ganddynt i’w gynnig, gallwch gysylltu â nhw yma:
E-bost: support@classofyourown.com
Twitter: @ClassOfYourOwn