Gwneud dodrefn
Mae saer dodrefn yn arbenigo mewn gwneud dodrefn o bren i fanylebau uchel iawn.
Mae seiri dodrefn yn gwneud neu'n atgyweirio dodrefn o bren solet neu gynhyrchion wedi'u seilio ar bren. Efallai y bydd seiri dodrefn yn arbenigo mewn meysydd penodol megis dylunio pwrpasol ac ail-gynhyrchu hen ddodrefn, dodrefn ffitiadau, dodrefn swyddfa, ffitiadau siop a dodrefn wedi’i swp-gynhyrchu. Bydd seiri dodrefn yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw a pheiriannau gwaith coed, fel llifiau pŵer, plaeniau uniadu a morteiswyr i arwynebu, torri, neu siapio pren neu gynhyrchion wedi'u seilio ar bren er mwyn gwneud dodrefn.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer dodrefn a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth:
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Bydd cystadleuwyr yn gallu gweithio o fewn 0.9mm ar ddimensiynau ac yn agosach wrth ffitio uniadau
- Bydd cystadleuwyr yn ennill marciau am farcio’n gywir hyd at safonau cydnabyddedig, torri a ffitio uniadau'n lân a chrimp, siapio pren gan ddefnyddio ystod o blanau a pharatoi'r pren i sicrhau gorffeniad
- Bydd cystadleuwyr yn colli marciau am uniadau sy'n rhydd, arwynebau garw ar uniadau, sgiliau cynllunio a gorffen gwael
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Cyfarwyddiadau cyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Dehongli darluniau
- Marcio pren yn gywir cyn gweithio arno
- Torri pren â llifiau a chynion
- Torri a siapio deunyddiau gydag offer llaw a pheiriant
- Rhoi cynhyrchion gorffenedig at ei gilydd
- Gweithio o fewn 0.9mm ar ddimensiynau ac yn agosach wrth ffitio uniadau
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau