Trosolwg o’r gystadleuaeth toi gyda llechi a theils
Bydd disgwyl i’r cystadleuwyr ymgymryd â phrosiect penodol lle bydd gofyn iddynt ddangos y sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu heddiw.
Mae towyr yn gweithio ar haenau gwarchodol adeilad sy’n gwahanu’r tu mewn oddi wrth yr elfennau gan ddefnyddio amryw o ddeunyddiau, dulliau a strwythurau. Mae towyr llechi a theils yn gosod ac yn atgyweirio’r holl orchudd sy’n dal dŵr ar gyfer adeiladau drwy osod llechi neu deils ar fframwaith wedi’i ddylunio, fel to tŷ. Mae’r sgiliau ar gyfer y rôl hon yn cynnwys deall darluniau a manylebau i wybod pa ddeunyddiau i’w defnyddio, gosod is-haen, rhoi deunydd inswleiddio a gorchuddion to yn eu lle, atgyweirio toeau hen neu ddiffygiol, gan sicrhau bod unrhyw orchudd newydd yn diogelu rhag y tywydd.
Gall arbenigwyr treftadaeth weithio ar doeau sy’n amrywio o dai teras Fictoraidd i eglwysi hynafol. Mae towyr llechi a theils modern wedi’u hyfforddi i ddefnyddio deunyddiau wedi’u gwneud â llaw o oesau cynharach, gan gynnwys teils clai a gwahanol fathau o gerrig neu lechi naturiol.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei chynllunio i adlewyrchu rôl töwr llechi a theils, a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, 18 awr yw’r amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Dehongli darluniau
- Gosod is-haenau, estyll stribed a theils
- Mesur, marcio a thorri teils
- Arddangos technegau torri
- Defnyddio technegau pwyntio
- Sicrhau bod adeiladwaith wedi’i osod yn ddiogel drwyddo
- Sicrhau nad oes diffygion yn yr adeiladwaith
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau