Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau
Mae teilswyr waliau a lloriau yn addurno, yn gwella ac yn diogelu adeiladau gorffenedig â theils. Gellir gwneud teils o lawer o ddeunyddiau gwahanol fel terracotta, porslen a cherrig naturiol gan gynnwys marmor, yn ogystal â serameg.
Mae teilsiwr waliau a lloriau yn gosod amrywiaeth o deils seramig ar waliau ac arwynebau llawr. Gallai teilswyr waliau a lloriau osod teils mewn nifer o leoliadau megis ceginau, ystafelloedd ymolchi, siopau, gwestai, bwytai, ystafelloedd arddangos ceir, eglwysi, pyllau nofio, mannau sba. Mae angen i deilswyr fod yn fedrus ynghylch gosod, paratoi'r arwyneb i'w deilsio, a thorri teils i faint neu siâp penodol gyda thorwyr llaw neu offer sydd wedi'u gosod ar fainc. Ar ôl i deils gael eu gosod ar arwyneb mae angen eu growtio a'u caboli i gwblhau'r gwaith.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl teilsiwr waliau a lloriau a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Dehongli lluniadau a manylebau i gynnwys cynlluniau, gweddluniau, adrannau a manylion wedi'u chwyddo
- Paratoi'r cefndiroedd cyn gosod teils
- Rhoi glud ar arwynebau'r waliau a lloriau
- Mesur, cyfrifo, marcio a thorri teils
- Gosod teils addurnol ar arwyneb byrddau plastr a phren haenog
- Arddangos gwybodaeth o brosesau geometrig
- Uniadu a growtio
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen