Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
Mae saer coed yn gweithio â phren i adeiladu drysau, ffenestri, dodrefn wedi'i ffitio a gosodiadau parhaol eraill mewn adeiladau. Yn aml byddant yn paratoi eitemau mewn gweithdy cyn mynd i'r safle i osod yr eitemau a gwblhawyd.
Mae seiri coed yn gweithio â llawer o fathau o bren a deunyddiau adeiladu eraill i greu amrywiaeth o waith mewnol ac allanol megis grisiau, ffenestri, drysau, dodrefn, ceginau, cypyrddau a gwaith coed mewnol. Gall seiri coed weithio ar brosiectau treftadaeth sydd angen sgiliau traddodiadol i warchod, trwsio neu ail-greu gwaith saer coed o'r gorffennol neu adfer adeiladau hanesyddol. Mae seiri coed yn defnyddio ystod o gyfarpar o offer traddodiadol megis llifiau, cynion, planau a driliau i gyfarpar torri cyfrifiadurol o'r radd flaenaf a meddalwedd llunio a dylunio uwch-dechnoleg. Mae eu sgiliau yn gymysgedd gwerthfawr o grefftwaith traddodiadol a modern.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer coed a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr
- Gallai cystadleuwyr Rownd Derfynol Genedlaethol Adeiladu Sgiliau’r DU symud ymlaen i gystadlaethau EuroSkills a WorldSkills os yw'r holl feini prawf perthnasol wedi'u bodloni
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Tynnu llun a gosod allan
- Marcio ar bren a deunyddiau dalennog
- Torri amrywiaeth o uniadau hyd at safon uchel o gywirdeb
- Cydosod, gwirio ei fod yn sgwâr, datgymalu, ailosod a gludo
- Cynllunio i sicrhau ffit gywir a chynnyrch gorffenedig o safon uchel
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau