Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau waliau sych
Mae arbenigwyr Plastro a Systemau Waliau Sych yn gosod leininau mewnol i adeiladau gan ddefnyddio systemau ffrâm ddur ysgafn, byrddau plastr a chynnyrch plastr.
Mae leiniwr sych yn creu waliau, ystafelloedd a choridorau newydd mewn adeilad. Maent hefyd yn gorchuddio pibellau a gwifrau, yn creu lle ar gyfer inswleiddio ac yn llyfnhau wynebau anwastad yn ystod gwaith adnewyddu. Mae leinwyr sych yn fedrus wrth adeiladu waliau mewnol ym mhob math o adeiladau, gan ddefnyddio parwydydd stydiau metel a dalennau o fwrdd plastr. Maen nhw hefyd yn gosod parwydydd sy’n gallu cael eu symud yn nes ymlaen os oes angen, ynghyd â nenfydau crog a lloriau wedi’u codi.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei dylunio i adlewyrchu rôl plastrwr a leiniwr sych, a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio trwy gydol y gystadleuaeth:
- Rhaid i gystadleuwyr weithio ar sail goddefiannau o +/- 2mm
- Bydd cystadleuwyr yn ennill marciau am gywirdeb dimensiynol, plymio, sgwario a lefelu eu gwaith yn ogystal â gorffeniad arwyneb
- Bydd marciau’n cael eu colli am gamgymeriadau, arferion gweithio anniogel neu flêr a gorffeniadau o safon isel
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, 18 awr yw’r amser hiraf y gellir gweithio ar y dasgl
Cymwyseddau Craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Dehongli darluniau
- Gosod parwydydd allan, gan ganiatáu lle ar gyfer agoriadau a gwrthdroadau
- Mesur a thorri waliau stydiau metel a byrddau plastr i ddimensiynau penodol
- Gosod byrddau i waith styd yn unol â safonau’r diwydiant
- Creu agoriadau mewn parwydydd
- Tapio ac uniadu’r parwydydd sydd wedi’u cwblhau
- Gosod gleiniau a thapiau ar agoriadau ac onglau allanol
- Talu costau cwblhau pan fo angen
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau