Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
Gwaith maen yw’r grefft o siapio darnau garw o graig yn siapiau geometrig cywir, sydd weithiau'n syml ond weithiau’n gymhleth iawn, ac yna'n trefnu'r cerrig sy'n deillio o hyn, yn aml ynghyd â morter i ffurfio strwythurau.
Mae seiri maen yn creu eitemau cerrig ymarferol a all bara am ganrifoedd, mae angen iddynt fod yn fedrus o ran creu eitemau cerrig gan ddefnyddio offer traddodiadol. Mae seiri maen yn gweithio o flociau cerrig wedi’u llifio i lunio popeth o gladin ar gyfer bloc swyddfeydd newydd i gerfiadau cymhleth a phwysig ar gyfer adeiladau hanesyddol enwog, gan weithio â deunyddiau megis llechi, tywodfaen a chalchfaen. Maent yn defnyddio templedi a lluniadau fel canllaw ac yn aml yn copïo cerrig sydd wedi dirywio neu falu i greu copi sydd yn union yr un fath. Gwaith maen yw un o'r proffesiynau hynaf yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer maen a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 8 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Cynhyrchu gwaith maint llawn o luniad gweithio gan ddefnyddio'r technegau geometrig priodol
- Cynhyrchu templedi mewn plastig a sinc o waith maint llawn (wedi'i farcio'n llawn)
- Defnyddio templedi ar garreg i drosglwyddo'r wybodaeth berthnasol
- Defnyddio templedi mewn ffordd sy'n lleihau gwendidau a diffygion
- Saernïo siamffrau, rheolaethau a ffiledau
- Saernïo mowldiau ceugrwm ac amgrwm
- Saernïo arwynebau gwastad a chrwm
- Cynhyrchu meitrau mewnol ac allanol
- Cynhyrchu stopiau ashlar
- Archwilio a yw’r cerrig yn union a sgwâr, a’u cywiro os oes angen
- Dewis yr offer cywir ar gyfer y gwaith dan sylw
- Arddangos gwybodaeth o brosesau geometrig
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau