Gwaith coed
Mae saer yn torri, yn ffitio ac yn cydosod pren ar gyfer adeiladu fframweithiau, drysau, ffenestri, lloriau, grisiau a phaneli ar brosiectau masnachol a phreswyl.
Mae seiri yn gwneud ac yn gosod gosodiadau a ffitiadau pren fel rhan o brosiectau adeiladu. Mae saer yn grefftwr hyfforddedig sy'n fedrus mewn gwaith coed. Mae ef neu hi'n mesur, marcio, torri, siapio, ffitio a gorffen pren, naill ai â llaw neu ag offer pŵer.
Mae pren yn rhan hanfodol o'r rhan fwyaf o adeiladau, ac mae gweithio gyda choed yn cynnwys gweithio ar doeau, lloriau a waliau. Bydd y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu angen seiri, felly gall y swydd fynd â nhw i unrhyw le, o gartrefi ac eiddo masnachol i safleoedd adeiladu.
Mae'r math yma o rôl yn golygu llawer o gyfrifoldeb ac mae'n greadigol iawn, ac mae seiri'n cael cyfle i weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau. Mae saer medrus yn aml yn hanfodol i adfer ac ail-greu adeiladau hanesyddol fel rhan o brosiectau treftadaeth diddorol. Arbenigaeth arall y seiri yw darparu elfennau pren ar gyfer cynhalbyst concrid cymhleth.
Mae gwaith coed yn rôl grefftus yn y diwydiant adeiladu, felly mae gwybodaeth ragorol am bren yn ogystal â’r mathau a’r defnydd gwahanol yn bwysig, yn ogystal â gwybod sut y bydd y cynnyrch gorffenedig yn ffitio mewn tŷ neu adeilad.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o'r gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Mae cystadleuwyr yn gweithio at oddefiant o lai na 0.5mm
- Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny
Cyfarwyddiadau cyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:
- Dilyn cyfarwyddiadau
- Dehongli lluniadau a manylebau
- Dewis deunyddiau a gosodiadau priodol
- Gosod prosiectau ar eu maint llawn i bennu union siâp y rhannau ar lethr
- Marcio pren hyd at oddefiant o lai na 0.5mm
- Siapio’r pren gyda llifiau, cynion a phlanau
- Cydosod y prosiect yn gywir gan ddefnyddio sgriwiau
- Gweithio'n effeithlon, gyda chyn lleied o wastraff â phosibl a dim darnau amnewid
- Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn modd diogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth paentio ac addurno
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau