Facebook Pixel

Ecolegydd

Mae ecolegwyr yn astudio'r berthynas rhwng planhigion, anifeiliaid a'r amgylchedd. Maent yn edrych ar sut mae anifeiliaid a phlanhigion yn byw mewn amgylchedd penodol, ac yn adrodd ar effaith debygol unrhyw waith adeiladu arfaethedig. Gan ddibynnu ar y dasg dan sylw, gallent dreulio amser yn gweithio yn yr awyr agored, mewn prifysgol, mewn swyddfa neu mewn labordy.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

39-41

Sut i fod yn ecolegydd

Mae sawl ffordd o ddod yn ecolegydd. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu brentisiaeth. 

Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o gael profiad a gallai wella eich cyfleoedd o ddod o hyd i waith. Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ecolegydd, i weld pa un yw’r un iawn i chi.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallwch gwblhau gradd neu gymhwyster ôl-radd mewn pwnc perthnasol megis:

  • Ecoleg
  • Ecoleg a chynaliadwyedd amgylcheddol
  • Sŵoleg
  • Bioleg forol
  • Bioleg cadwraeth
  • Gwyddorau ecolegol
  • Gwyddor yr amgylchedd. 

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni sy'n arbenigo mewn arolygu neu ecoleg yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Os oes gennych radd mewn pwnc perthnasol, efallai y gallwch ddilyn gradd-brentisiaeth ecolegydd ôl-radd. Bydd angen cymhwyster a phrofiad mewn gwyddor ecolegol arnoch i wneud cais.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni sy’n arbenigo mewn arolygu neu ecoleg i gael profiad ar safle fel ecolegydd. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i ecolegydd mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel ecolegydd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel ecolegydd: 

  • Sgiliau rhesymu a meddwl dadansoddol
  • Dealltwriaeth dda o fathemateg a Saesneg
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.

Beth mae ecolegydd yn ei wneud?

Fel ecolegydd byddwch yn gyfrifol am ymweliadau safle i gynnal astudiaethau ac arolygon o anifeiliaid, planhigion a’r amgylchedd er mwyn sicrhau data cywir ar effaith prosiectau adeiladu. 

Mae swydd ecolegydd yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Ymweld â safleoedd i gynnal arolygon o anifeiliaid, planhigion a’u hamgylchedd
  • Ymchwilio i effaith adeiladu a gweithgareddau dynol eraill
  • Adeiladu modelau cyfrifiadurol i ragweld effeithiau gwaith adeiladu
  • Rhoi cyngor ar reoliadau cyfreithiol sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir
  • Canfod a chofnodi manylion cynefinoedd a rhywogaethau
  • Paratoi adroddiadau sy’n rhoi manylion effaith amgylcheddol bosibl unrhyw darfu ar yr amgylchedd a gwneud argymhellion ar y ffordd orau o’i rheoli
  • Dadansoddi'r data a gasglwyd
  • Cynghori rhanddeiliaid y prosiect
  • Rhoi cyngor arbenigol ar ddeddfwriaeth amgylcheddol
  • Paratoi adroddiadau ac argymhellion
  • Ymweld â safle yn ystod y gwaith adeiladu i fonitro bod yr holl waith yn cael ei wneud fel y cytunwyd
  • Cynghori cynllunwyr, peirianwyr, dylunwyr a chwmnïau adeiladu
  • Bydd gyrfa fel ecolegydd fel arfer yn cynnwys oriau swyddfa arferol, dydd Llun i ddydd Gwener
  • Mae’n debygol y bydd adegau pan fydd angen gweithio’n hwyr neu ar benwythnosau, yn enwedig mewn rolau uwch.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel ecolegydd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ecolegydd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall ecolegwyr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall ecolegwyr hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall ecolegwyr uwch, siartredig neu feistr ennill £30,000 - £50,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa hefyd yn gwella os bydd gennych statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer ecolegwyr:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad, gallech fod yn uwch ecolegydd, ac arwain tîm o ymchwilwyr, datblygu cynlluniau bioamrywiaeth neu weithredu fel ymgynghorydd ar brosiectau datblygu cynaliadwy. 

Gallech hefyd weithio tuag at statws amgylcheddwr siartredig drwy Gymdeithas yr Amgylchedd, a fydd yn eich helpu i ennill cyflog uwch. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080